155[1] Gogoniant y Groes.
66. 66. 88.
1 MAE enw Calfari,
Fu gynt yn wradwydd mawr,
Yng ngolwg f'enaid i
Yn fwy na'r nef yn awr:
O! ddedwydd fryn, sancteiddiaf le,
Dderbyniodd ddwyfol waed y ne'!
2 'R wy'n caru'r hyfryd awr,
Mi gara'r hyfryd le,
Mi garaf bren y groes
Fu ar ei ysgwydd E:
Wel dyma 'Nuw a dyma 'Mhen,
Ac oll a feddaf, ar y pren!
3 Ffarwél, deganau byd,
Mae'ch tegwch hyfryd iawn
OLL yn diflannu 'nghyd
Ar Galfari brynhawn:
Mae da a dyn, er maint eu grym,
Yng ngŵydd y groes yn mynd yn dim.
William Williams, Pantycelyn
156[2] Dibenion Gwaed y Groes.
66. 66. 88.
1 NI chollwyd gwaed y groes
Erioed am ddim i'r llawr,
Na dioddef angau loes
Heb ryw ddibenion mawr ;
A dyma oedd ei amcan Ef—
Fy nwyn o'r byd i deyrnas nef.
2 N'ad imi garu mwy
Y pechod drwg ei ryw—
Y pechod roddodd glwy'
I'm Prynwr, O! fy Nuw.
N'ad imi garu dim ond
Ti O'r ddaer i eitha'r nefoedd fry.
William Williams, Pantycelyn