Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llyfr Emynau MC a MW 1930.pdf/188

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

157[1] Grym Cariad Crist.
66. 66. 88.

1 ENYNNAIST ynof dân—
Perffeithiaf dân y nef,
Ni all y moroedd mawr
Ddiffoddi mono ef;
Dy lais, dy wedd, a gweld dy waed,
Sy'n troi 'ngelynion dan fy nhraed.

2 Mae caru 'Mhrynwr mawr,
Mae edrych ar ei wedd,
Y pleser mwya'n awr
Sy i'w gael tu yma i'r bedd:
O! gariad rhad, O! gariad drud,
Sydd fil o weithiau'n fwy na'r byd.

3 Wel dyma'r gwrthrych cun,
A dyma'r awr a'r lle:
Cysegraf fi fy hun byd
Yn gyfan iddo Fe;
Ffarwél, ffarwél, bob eilun mwy,
Mae cariad Iesu'n drech na hwy.

William Williams, Pantycelyn


158[2] Digon yng Nghrist.
66. 66. 88.

FY Iesu yw fy Nuw,
Fy noddfa gadarn gref;
Ni fedd fy enaid gwan
Ddim arall dan y nef;
Mae Ef ei Hun a'i angau drud
Yn fwy na'r nef, yn fwy na'r byd.
2
Fy nymuniadau i gyd
Sy'n cael atebiad llawn,
A'm holl serchiadau 'nghyd
Hyfrydwch nefol iawn,
Pan fyddwy'n gweld, wrth olau'r wawr,
Mai eiddof fi fy Arglwydd mawr.
 
William Williams, Pantycelyn


  1. ↑ Emyn rhif 157, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930
  2. ↑ Emyn rhif 158, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930