159[1]Enw'r Addfwyn Oen.
66. 66. 88.
1 O! NEFOL addfwyn Oen
Sy'n llawer gwell na'r byd,
A lluoedd maith y nef
Yn rhedeg arno'n bryd;
Dy ddawn a'th ras a'th gariad drud
Sy'n llanw'r nef, yn llanw'r byd.
2Noddfa pechadur trist,
Dan bob drylliedig friw
A phwys euogrwydd llym,
Yn unig yw fy Nuw;
Does enw i'w gael o dan y nef
Yn unig ond ei enw Ef.
3 Ymgrymed pawb i lawr
I enw'r addfwyn Oen;
Yr enw mwyaf mawr
Erioed a glywyd sôn:
Y clod, y mawl, y parch a'r bri
Fo byth i enw'n Harglwydd ni.
William Williams, Pantycelyn
160[2] Ymgnawdoliad Crist.
66. 66. 88.
DAETH Llywydd nef a llawr
I wisgo dynol gnawd;
Wel, henffych, Arglwydd mawr,
A henffych, dirion Frawd;
Henffych i'n Duw a'n Ceidwad hael
A welwyd yn y preseb gwael.
2 Pa dafod neu ba ddawn,
A fedd angylaidd lu,
A ddywaid byth yn llawn
Am ras ein Ceidwad cu?
Ei waed a roes, o'i gariad gwiw,
I gannu'r lleiddiaid dua'u lliw.