Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llyfr Emynau MC a MW 1930.pdf/190

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

3 Mae cariad yn ei wedd
At wael golledig fyd;
Cyfiawnder llym a hedd
Yn ymgusanu 'nghyd;
Trugaredd a gwirionedd pur
Yn ymddisgleirio yn ei gur.

Thomas Jones, Dinbych


161[1] Atgyfodiad Crist.
66. 66. 88.

1 CYFODODD Brenin hedd,
Iachawdwr dynol-ryw,
Mewn gogoneddus wedd,
O'r marwol fedd yn fyw:
Ein bywiol Ben esgynnodd fry,
Goruwch pob llu, tu draw i'r llen.

2 Daw'r saint o lwch y bedd
Ar wedd eu Priod cu,
I lawn dragwyddol wledd,
Mewn gwir orfoledd fry;
Dyrchafant draw o'r dyfnder cudd,
Cânt ddod yn rhydd, mae'r dydd gerllaw.

3 Pan losgo'r ddaear lawr,
A'i mawredd o bob rhyw,
Fe genir am yr awr
Daeth Ef o'i fedd yn fyw:
Bydd cof am hon gan ddisglair lu
Aneirif fry, byth ger ei fron.

Robert Williams (Robert ap Gwilym Ddu)



162[2] Atgyfodiad Crist.
66. 66. 88.

1 'N ÔL, marw Brenin hedd,
A'i eiddo i gyd yn brudd,
A'i roi mewn newydd fedd,
Cyfodai'r trydydd dydd;

  1. Emyn rhif 161, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930
  2. Emyn rhif 162, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930