Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llyfr Emynau MC a MW 1930.pdf/205

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

184[1] Crist ar y Môr
87.87.

1 Pwy yw Hwn sy'n rhodio'r tonnau,
Drwy'r ystorom ar ei hynt?
Dyma Lywydd y dyfnderau,
Dyma Arglwydd mawr y gwynt.

2 Er i oriau'r nos ei gadw
Ar y mynydd gyda'r Iôr,
Gŵyr am deulu'r tywydd garw,
A'i rai annwyl ar y môr.

3 Os yw gwedd ei ymddangosiad
Yn brawychu'r gwan eu ffydd,
Mae ei lais fel diliau cariad,
Mae ei wên fel bore ddydd.

4 Llywodraethwr mawr y moroedd,
A gostegwr ofnau'r fron,—
Edrych eto i lawr o'th nefoedd,
Gwêl yr eiddot ar y don.

William Nantlais Williams (Nantlais)


185[2] Cyflawnder Crist
88. 88. D.

1 IESU, nid oes terfyn arnat,
Mae cyflawnder maith dy ras
Yn fwy helaeth, yn fwy dwfwn,
Ganwaith nag yw 'mhechod cas:
Fyth yn annwyl
Meibion dynion mwy a'th gâr.

2 Mae angylion yn cael bywyd
Yn dy ddwyfol nefol hedd,
Ac yn sugno'u holl bleserau
Oddi wrth olwg ar dy wedd;
Byd o heddwch
Yw cael aros yn dy ŵydd.


  1. Emyn rhif 184, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930
  2. Emyn rhif 185, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930