194[1] Y Graig..
87. 87.47.
1 GWELAF graig a'm deil mewn stormydd
O gawodydd, dŵr a thân;
Yn wyneb uffern a'i rhuthriadau,
Holl breswylwyr hon a gân:
Cadarn sylfaen
A osodwyd gan y Tad.
John Hughes, Pontrobert
195[2] Crist oll yn Hawddgar..
87. 87.47.
1 WELE'N sefyll rhwng y myrtwydd
Wrthrych teilwng o'm holl fryd:
Er mai o ran yr wy'n adnabod
Ei fod uwchlaw gwrthrychau'r byd:
Henffych fore
Y caf ei weled fel y mae.
2 Rhosyn Saron yw ei enw,
Gwyn a gwridog, teg o bryd;
Ar ddeng mil y mae'n rhagori
O wrthrychau penna'r byd:
Ffrind pechadur,
Dyma'r llywydd ar y môr.
3 Beth sydd imi mwy a wnelwyf
Ag eilunod gwael y llawr?
Tystio'r wyf nad yw eu cwmni
I'w gystadlu â'm Iesu mawr :
O! am aros
Yn ei gariad ddyddiau f'oes.
Ann Griffiths
196[3] Genedigaeth y Ceidwad..
87. 87.47.
1 PERAIDD ganodd sêr y bore |