Tudalen:Llyfr Emynau MC a MW 1930.pdf/212

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

2 Dyma Geidwad i'r colledig,
Meddyg i'r gwywedig rai;
Dyma Un sy'n caru maddau
I bechaduriaid mawr eu bai:
Diolch iddo
Byth am gofio llwch y llawr.

Morgan Rhys, Sir Gaerfyrddin (?1705-1779}


197[1] Mawredd Crist.
87. 87.67.


1 MAWR oedd Crist yn nhragwyddoldeb,
Mawr yn gwisgo natur dyn;
Mawr yn marw ar Galfaria,
Mawr yn maeddu angau'i hun ;
Hynod fawr yw yn awr,
Brenin nef a daear lawr.

2 Mawr oedd Iesu yn yr arfaeth,
Mawr yn y cyfamod hedd;
Mawr ym Methlem a Chalfaria,
Mawr yn dod i'r lan o'r bedd:
Mawr iawn fydd Ef ryw ddydd
Pan ddatguddir pethau cudd.

3 Mawr yw Iesu yn ei Berson ;
Mawr fel Duw, a mawr fel dyn;
Mawr ei degwch a'i hawddgarwch,
Gwyn a gwridog, teg ei lun :
Mawr yw Ef yn y nef
Ar ei orsedd gadarn gref.

Titus Lewis, Caerfyrddin (1773-1811)



198[2] Wele, cawsom y Meseia.
87. 87. 67.

WELE, cawsom y Meseia,
Cyfaill gwerthfawroca' 'rioed ;
Darfu i Moses a'r proffwydi
Ddweud amdano cyn ei ddod :
Iesu yw, gwir Fab Duw,
Ffrind a Phrynwr dynol-ryw.


  1. Emyn rhif 197, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930
  2. Emyn rhif 198, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930