Tudalen:Llyfr Emynau MC a MW 1930.pdf/213

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

2 Dyma Gyfaill haeddai'i garu,
A'i glodfori'n fwy nag un :
Prynu'n bywyd, talu'n dyled,
A'n glanhau â'i waed ei Hun:
Frodyr, dewch, llawenhewch,
Diolchwch iddo, byth na thewch!

Dafydd Jones o Gaeo

199[1] N'ad im adeiladu'n ysgafn.
87. 87. 67.

1 N'AD im adeiladu'n ysgafn
Ar un sylfaen is y ne';
N'ad im gymryd craig i orffwys
Tu yma i angau yn dy le:
Ti, fy Nuw, tra fwyf byw,
Gaiff fod fy ngorffwysfa wiw.

2 Dyma'r maen sydd yn y gongol,
Dyma'r garreg werthfawr bur,
Gloddiwyd allan yn y bryniau,
Bryniau tragwyddoldeb dir;
Nid oes le, is y ne',
I adeiladu ond Efe.

3 Minnau'r gwaela' o bechaduriaid,
Yn y diwedd rhof fy nhroed
Ar y graig sydd yn y moroedd,
Craig gadarnaf fu erioed;
Ceidw hon, rhag pob ton,
Ofnau i ffwrdd o dan fy mron.

William Williams, Pantycelyn



200[2] Y mae Un, uwchlaw pawb eraill.
87. 87. 77.

1 Y MAE Un, uwchlaw pawb eraill
Drwy'r greadigaeth fawr i gyd,
Sydd yn haeddu'i alw'n Gyfaill,
Ac a bery'r un o hyd:
Brawd a anwyd inni yw
Erbyn cledi o bob rhyw.


  1. Emyn rhif 199, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930
  2. Emyn rhif 200, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930