Tudalen:Llyfr Emynau MC a MW 1930.pdf/228

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

I olchi'r holl archollion wnaed
Gan bechod cas, o'm pen i'm traed,
Y dyfroedd dardd dan groes fy Nuw.


William Williams, Pantycelyn


225[1] Iawn a Maddeuant.
888.888.


1 GWNAED concwest ar Galfaria fryn,
Amdani canodd myrdd cyn hyn:
Fe faeddwyd uffern faith i gyd;
Fe brynwyd gwael golledig ddyn,
Fe'i dygwyd ef â Duw yn un,
A gwaed Iachawdwr mawr y byd.

2 Wel dyma'r Cyfaill gorau gad;
Mae'n ganmil gwell na mam na thad;
Ym mhob caledi ffyddlon yw:
Mae'n medru maddau a chuddio bai,
Ac o'i wir fodd yn trugarhau
Wrth bechaduriaid gwael eu rhyw.

3 Ei haeddiant mawr anfeidrol Ef,
A lwyr fodlonodd nef y nef,
A geidw f'enaid yn ddi-grŷn;
Yng ngwres y dydd a'r stormydd mawr,
Efe a'm daliodd hyd yn awr:
Gogoniant byth i Geidwad dyn!

Morgan Rhys



226[2] Meddyliau Trugaredd a Gras.
88. 88. D.

1 DATGUDDIWYD dirgelion i maes,
Dirgelion cuddiedig i'r byd,
Meddyliau trugaredd a gras
I'r pennaf bechadur i gyd,
A gloed mewn addewid sydd gref,
Na welir fyth fythoedd ei hail,
O ddyfnder y ddaear i'r nef,
Mor gywir, mor sicir ei sail.


  1. Emyn rhif 225, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930
  2. Emyn rhif 226, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930