Tudalen:Llyfr Emynau MC a MW 1930.pdf/229

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

2.Y gallu a'r anrhydedd a'r clod,
Y moliant a'r parch yn gytûn,
O'r nefoedd i'r ddaear gaiff fod
Yn gyfan i'm Harglwydd ei Hun;
Aed sŵn dy farwolaeth i maes,
O'r dwyrain luosog i'r de;
Helaethed terfynau dy ras
Mor bell ag y cyrraedd y ne'.

3.Aed sain Haleliwia i'r lan,
Trwy'r awyr anfeidrol ei maint;
Cymysged caniadau rhai gwan
A thyrfa luosog o saint:
Ni gawsom gan' cymaint â'r byd,
Can' cymaint drachefen â hyn,
Can' cymaint â'r nefoedd i gyd,
Brynhawngwaith ar Galfari fryn.

William Williams, Pantycelyn

227[1] Prynwr Byw.
88. 88. D.

1.MI wn fod fy Mhrynwr yn fyw,
A'm prynodd â thaliad mor ddrud ;
Fe saif ar y ddaear, gwir yw,
Yn niwedd holl oesoedd y byd :
Er ised, er gwaeled fy ngwedd,
Teyrnasu mae 'Mhrynwr a'm Brawd;
Ac er fy malurio'n y bedd,
Ca'i weled Ef allan o'm cnawd.

2.Wel, arno bo 'ngolwg bob dydd,
A'i daliad anfeidrol o werth;
Gwir Awdwr, Perffeithydd ein ffydd,
Fe'm cynnal ar lwybrau blin serth:
Fy enaid, ymestyn ymlaen,
Na orffwys nes cyrraedd y tir,
Y Ganaan dragwyddol ei chân,
Y Sabbath hyfrydol yn wir.

Thomas Jones, Dinbych

  1. Emyn rhif 227, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930