Tudalen:Llyfr Emynau MC a MW 1930.pdf/236

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

239[1] Calfaria a'i Fendithion.
11. 11. 11. 11.

1 YR afon a lifodd rhwng nefoedd a llawr
Yw gwraidd fy ngorfoledd a'm cysur yn awr;
Calfaria roes haeddiant, Calfaria roes hedd,
Calfaria sy'n cadw agoriad y bedd.

2 Mae angau ei hunan, ei ofnau a'i loes,
Mewn cadwyn gadarnaf yn rhwym wrth dy groes;
Allweddau hen uffern ddychrynllyd i gyd
Sy'n hongian wrth ystlys Iachawdwr y byd.

3 Nid oedd a ostegai bob terfysg a loes,
Cydwybod a'i dychryn, ond angau dy groes;
Can' miloedd oedd ynof o ofnau'n gytûn
Nes clywed bod Crewr y ddaear yn ddyn.

4 Wel, bellach, boed imi roi fárwel i'r byd,
Ffarwél i'w drysorau a'i bleser ynghyd;
Un gorchwyl sydd gennyf fyth mwyach i gyd,
Sef caru a chanu i Iachawdwr y byd.


William Williams, Pantycelyn


240[2] Rhinwedd Marwolaeth yr Oen.
11. 11. 11. 11.

1 O! GARIAD, O! gariad anfeidrol ei faint—
Fod llwch mor annheilwng yn cael y fath fraint ;
Cael heddwch cydwybod, a'i chlirio trwy'r gwaed,
A chorff y farwolaeth, sef pechod, dan draed.

2 Ni allai'r holl foroedd byth olchi fy mriw,
Na gwaed y creaduriaid er amled eu rhyw;
Ond gwaed y Meseia a'i gwella'n ddi-boen:
Rhyfeddol yw rhinwedd marwolaeth yr Oen.

3 Cydganed y ddaear a'r nefoedd ynghyd
Ogoniant tragwyddol i Brynwr y byd;
Molianned pob enaid fy Arglwydd ar gân.
Am achub anhydyn bentewyn o'r tân


  1. Emyn rhif 239, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930
  2. Emyn rhif 240, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930