Tudalen:Llyfr Emynau MC a MW 1930.pdf/237

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

4 Mae'r Jiwbil dragwyddol yn awr wrth y drws,
Fe gododd yr heulwen, ni gawsom y tlws;
Daw gogledd a dwyrain, gorllewin a de,
Yn lluoedd i foli Tywysog y ne'.

Morgan Rhys


241[1] Dyrchafu'r Iachawdwr.
11. 11. 11. 11.

1. CYDUNED trigolion y ddaear i gyd
Mewn sain o glodforedd i Brynwr y byd:
Mor dirion ei gariad at holl ddynol-ryw!
Troseddwyr a eilw i ddychwelyd a byw.

2 I gadw'r colledig, o'r nefoedd y daeth—
Rhoi bywyd i'r marw, a rhyddid i'r caeth;
Am hyn gorfoleddwn, mae inni iachâd
A bywyd tragwyddol trwy haeddiant ei waed.

3 Prysured y dyddiau yn fuan i ben,
Pan foler yr Iesu gan bawb is y nen;
Doed pobloedd y ddaear yn gyson i gyd.
I ganmol a charu Iachawdwr y byd.

Anhysbys



242[2] Nesâ at fy Enaid.
11. 11. 11. 11.

1 NESA at fy enaid, Waredwr y tlawd;
Datguddia dy Hunan, dy fod imi'n Frawd:
Prydferthwch fy mywyd a'i nerth ydwyt Ti,
A phrofi o'th gariad sy'n nefoedd i mi.

2 Ti ddaethost yn agos at un oedd ymhell,
Er achub ei fywyd i wynfyd sydd well;
Arhosaist yn ffyddlon drwy oerni a gwres;
Bydd eto yn f'ymyl, a thyred yn nes.

3 Rho im dy arweiniad i derfyn fy oes,
Mewn hedd a dedwyddwch, dan gystudd a chroes:
Ar finion Iorddonen, yn nyfnder ei lli,
A phawb wedi cefnu, nesâ ataf fi.

Richard Hughes Watkins


  1. Emyn rhif 241, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930
  2. Emyn rhif 242, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930