2 Fy enaid trist, wrth gofio'r taliad,
Yn llamu o lawenydd sydd;
Gweld y ddeddf yn anrhydeddus,
A'i throseddwyr mawr yn rhydd;
Rhoi Awdwr bywyd i farwolaeth,
A chladdu'r Atgyfodiad mawr;
Dwyn i mewn dragwyddol heddwch
Rhwng nef y nef a daear lawr.
3 Efe yw'r Iawn fu rhwng y lladron,
Efe ddioddefodd angau loes ;
Nerthodd freichiau'i ddïenyddwyr,
I'w hoelio yno ar y groes,
Wrth dalu dyled pechaduriaid,
Ac anrhydeddu deddf ei Dad;
Cyfiawnder, mae'n disgleirio'n danbaid
Wrth faddau'n nhrefn y cymod rhad.
4 Fy enaid, gwêl y fan gorweddodd
Pen brenhinoedd, Awdwr hedd;
Y grëadigaeth ynddo'n symud,
Yntau'n farw yn y bedd;
Cân a bywyd colledigion,
Rhyfeddod mawr angylion nef:
Gweld Duw mewn cnawd, a'i gydaddoli
Mae'r côr dan weiddi, "Iddo Ef."
Ann Griffiths
|
385[1] Cariad at Grist.
88. 87. D.
1 RWY'N teimlo f'enaid 'n awr yn caru
Yr Oen ogwyddodd droso'i 'i ben;
Dywedodd Iesu mawr "Gorffennwyd "
Wrth dalu 'nyled ar y pren
'R wy'n caru hardd lythrennau enw
Yr Hwn fu farw yn fy lle:
'D oes gyfaill yn y byd 'r wyf ynddo,
A bery'n ffyddlon fel Efe.
Morgan Rhys
- ↑ Emyn rhif 385, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930