Tudalen:Llyfr Emynau MC a MW 1930.pdf/317

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

386[1] Aros wrth y Groes.
886. 886.

1.CALFARIA fryn! mae f'enaid prudd
Yn teimlo'i rwymau'n mynd yn rhydd,
Wrth gofio'i chwerw loes:
Nid oes a'm lleinw'n berffaith lawn,
Ond cael mwynhau o felys iawn
Fendithion angau'r groes.

2.O! na chawn bellach dreulio f'oes
Mewn myfyr sanctaidd wrth y groes,
Ar ben Calfaria fryn.
Ym mhen rhyw oesoedd maith di-ri',
Fy nghân fydd angau Calfari,
A'r rhyfedd goncwest hyn.

John Philips (Tegeidion)


387[2] "Ffynnon i Bechod ac Aflendid."
88. 88. D.

1.CAED ffynnon o ddŵr ac o waed,
I olchi rhai duon eu lliw;
Ei ffrydiau a redodd yn rhad
I'r ardal lle'r oeddwn yn byw :
Er cymaint o rwystrau gadd hon,
Grym arfaeth a'i gyrrodd ymlaen,
I olchi tŷ Ddafydd o'r bron,
Jeriwsalem hefyd ddaw'n lân.

O gasgliad 1af Morris Davies, Bangor


388[3] Cofio'r Dioddef.<ref>88. 88. D.

1.WRTH gofio'i riddfannau'n yr ardd,
A'i chwŷs fel defnynnau o waed,
Aredig ar gefn oedd mor hardd,
A'i daro â chleddyf ei Dad,
A'i arwain i Galfari fryn,
A'i hoelio ar groesbren o'i fodd;
Pa dafod all dewi am hyn ?
Pa galon mor galed na thodd ?

Thomas Lewis, Tal-y-llychau

  1. Emyn rhif 386, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930
  2. Emyn rhif 387, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930
  3. Emyn rhif 388, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930