438[1] Cynhaliaeth ar y Daith..
M. B. D.
1 CHWI, bererinion glân,
Sy'n mynd tua'r Ganaan wlad,
Ni thariaf innau ddim yn ôl,
Dilynaf ôl eich traed;
Nes mynd i Salem bur
Mewn cysur llawn i'm lle:
O! Ffrind troseddwyr, moes dy law,
A thyn fi draw i dre'.
2 Mi ges arwyddion gwir
O gariad pur fy Nuw;
Ei ras a'i dawel hyfryd hedd;
I'm henaid, rhyfedd yw;
Ymhell o'r babell hon
Mae 'nghalon gydag E';
O! Ffrind troseddwyr, moes dy law,
A thyn fi draw i dre'.
3 Mae'r manna wedi'i gael
Mewn dyrys anial dir;
Ymborthi caf, ond mynd ymlaen,
Ar ffrwythau'r Ganaan bur;
Mae yno sypiau grawn
Yn llawn o fewn i'r lle;
O! Ffrind troseddwyr, moes dy law,
A thyn fi draw i dre'.
William Williams, Pantycelyn
439[2] Pererindod y Cristion..
M. B. D.
1 FY ngweddi, dos i'r nef, |