2 Pererin llesg a llaith,
Dechreuais daith oedd bell,
Trwy lu o elynion mawr eu brad,
Gan geisio gwlad sydd well;
Am ffoi mae f'enaid tlawd
At f'annwyl Frawd a'm Pen;
Yn Salem fry partô fy lle
Mewn llys o fewn i'r llen.
3 Yng nglyn wylofain trist,
Lle bu fy Nghrist, 'r wy'n byw ;
Ac wrth ryfela â'm gelyn caeth
Fy nghalon aeth yn friw ;
Iachâ bob clwyf a brath
 dail y bywiol bren;
Yn Salem fry partô fy lle
Mewn llys o fewn i'r llen.
4 Mae 'mrodyr uwch y nen
Yn canu ar ben eu taith;
A minnau oedais lawer awr
Ar siwrnai fawr a maith;
Ond bellach tyn fi'n ddwys,
Ar Grist dod bwys fy mhen;
Yn Salem fry partô fy lle
Mewn llys o fewn i'r llen.
William Williams, Pantycelyn
|
440[1] Awyddfryd y Cristion...
M. B. D.
MAE arnaf eisiau sêl
I'm cymell at dy waith,
Ac nid rhag ofn y gosb a ddêl,
Nac am y wobor chwaith;
Ond gwir ddymuniad llawn
Dyrchafu cyfiawn glod
Am iti wrthyf drugarhau,
Ac edrych arna'i 'rioed.
Dafydd Jones o Gaeo
- ↑ Emyn rhif 440, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930