Tudalen:Llyfr Emynau MC a MW 1930.pdf/347

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

441[1] Dilyn y Praidd..
M. B. D.

1 PERERIN wy'n y byd,
Ac alltud ar fy hynt,
Sy'n ceisio dilyn ôl y praidd—
Y tadau sanctaidd gynt ;
I 'mofyn gwlad sy well,
Er 'mod i 'mhell yn ôl,
Trwy gymorth gras, ymlaen mi af,
Dilynaf innau'u hôl.

2 Os rhaid ymdrechu dro,
Milwrio a chario'r groes,
A mynd dan wawd a gwg y byd,
Dros ennyd fer fy oes;
Caf goron gyda'r saint,
Tragwyddol fraint sy'n ôl;
Trwy gymorth gras, ymlaen mi af,
Dilynaf innau'u hôl.
Dafydd Jones o Gaeo


442[2] SALM LI. 1, 2, 7, 8.
M. B. C.

1 TRUGAREDD dod i mi,
Duw, o'th ddaioni tyner;
Tyn ymaith fy anwiredd mau,
O'th drugareddau lawer.

A golch fi yn llwyr ddwys
Oddi wrth fawr bwys fy meiau;
Fy Arglwydd, gwna'n bur lân fyfi,
Rhag brynti fy nghamweddau.

3 Ag isop golch fi'n lân,
Ni byddaf aflan mwyach;
Ond byddaf wedi'r golchi hyn
Fel eira gwyn, neu wynnach.


  1. Emyn rhif 441, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930
  2. Emyn rhif 442, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930