4 Mi ŵyraf weithiau ar y dde,
Ac ar yr aswy law;
Am hynny, arwain, gam a cham,
Fi i'r Baradwys draw.
5 Mae hiraeth arnaf am y wlad
Lle mae torfeydd di-ri'
Yn canu'r anthem ddyddiau'u hoes
Am angau Calfari.
William Williams, Pantycelyn
466[1] Ymdrech a Gweddi'r Cristion.
M.C.
1 'R WY'N morio tua chartref Nêr,
Rhwng tonnau maith 'r wy'n byw;
Yn ddyn heb neges dan y sêr
Ond 'mofyn am ei Dduw.
2 Mae'r gwyntoedd yn fy nghuro'n ôl,
A minnau 'd wyf ond gwan,
O ! cymer, Iesu, fi yn dy gol,
Yn fuan dwg fi i'r lan.
3 A phan fo'n curo f'enaid gwan
Elynion rif y sêr,
Dyrchafa f'ysbryd llesg i'r lan
I fynwes bur fy Nêr.
4 Na bo gwrthwynebiadau'r byd,
Na chroesau o un rhyw,
Yn f'oeri, nac yn sugno 'mryd
Un awr oddi wrth fy Nuw.
—William Williams, Pantycelyn
467[2] Fy Nhad sydd wrth y Llyw.
M. C.
AR fôr tymhestlog teithio'r wyf |