2 Drwy leoedd geirwon, enbyd iawn,
A rhwystrau o bob rhyw,
Y'm dygwyd eisoes ar fy nhaith—
Fy Nhad sydd wrth y llyw.
3 Er cael fy nhaflu o don i don,
Nes ofni bron cael byw,
Dihangol ydwyf hyd yn hyn—
Fy Nhad sydd wrth y llyw.
4 Ac os oes stormydd mwy yn ôl,
Ynghadw gan fy Nuw,
Wynebaf arnynt oll yn hy—
Fy Nhad sydd wrth y llyw.
5 A phan fo'u hymchwydd yn cryfhau,
Fy angor, sicir yw;
Dof yn ddiogel trwyddynt oll—
Fy Nhad sydd wrth y llyw.
6 I mewn i'r porthladd tawel clyd,
O sŵn y storm a'i chlyw,
Y caf fynediad llon ryw ddydd—
Fy Nhad sydd wrth y llyw.
|
468[1] Gorchestion Ffydd.
M. C.
1 TRWY ffydd eheda gweddi'r gwael,
Ac yntau gyda hi ;
Tyr ei gadwynau'n chwilfriw mân
Yng ngolwg Calfari.
2 O'r dyfnder esgyn gweddi'r ffydd,
O eigion moroedd mawr;
Ac o gyfamod Duw a'i wedd,
Mae'n tynnu hedd i lawr.
|
- ↑ Emyn rhif 468, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930