3 Trwy ffydd mae'n cadw 'nghanol tân.
Er nerth ei anian ef;
Yng nghanol llewod, byw mae ffydd,
A'i golwg tua'r nef.
4 Saif ffydd, trwy iechydwriaeth Iôr,
Er gweled môr yn cau ;
A ffydd, â'i gwialen, gair y llw,
A rwyga hwnnw'n ddau.
5 Ped âi'r mynyddoedd oll i'r môr,
Yr Arglwydd Iôr yw rhan
Pob perchen ffydd, ac ato rhed.
Am nodded ym mhob man.
6 I'r lan, o'r dyfnder du a'r don,
Daw etifeddion ffydd,
A'u cân yn un, er chwerw loes,
Am angau'r groes ryw ddydd.
|
469[1] Yr Afael Sicraf Fry.
M. C.
1 DYWEDWYD ganwaith na chawn fyw
Gan agnhrediniaeth hy;
Ond ymddiriedaf yn fy Nuw:
Mae'r afael sicraf fry.
2 Cyfamod Duw a'i arfaeth gref
Yn gadarn sydd o'm tu;
Anghyfnewidiol ydyw Ef:
Mae'r afael sicraf fry.
3 Er beiau mawrion, rif y dail,
A grym euogrwydd du,
Iawn ac eiriolaeth Crist yw'r sail :
Mae'r afael sicraf fry.
|
- ↑ Emyn rhif 469, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930