Tudalen:Llyfr Emynau MC a MW 1930.pdf/365

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

4 Rhagluniaeth fawr y nef o'm plaid,
Ei holl olwynion try;
Agorai'r môr, pe byddai raid:
Mae'r afael sicraf fry.

5 Caf floeddio concwest yn y man,
Pob gelyn draw a ffy;
Cans er nad ydwyf fi ond gwan,
Mae'r afael sicraf fry.

470[1] Disgwyl wrth yr Arglwydd.
M. C.

1 MAE addewidion melys wledd,
Yn gyflawn ac yn rhad,
Yn dy gyfamod pur o hedd,
Tragwyddol ei barhad.

2 'R wyf innau yn dymuno dod
I'r wledd ddanteithiol fras;
Ac felly mi gaf seinio clod
Am ryfedd rym dy ras.

3 O! rhwyma fi wrth byst dy byrth,
I aros tra fwyf byw,
I edrych ar dy wedd a'th wyrth,
A'th foli Di, fy Nuw.

4 Tydi fo 'nghymorth parod iawn,
I'm cynnal ar fy nhaith;
A Thi dy Hun fo 'nhrysor llawn
I dragwyddoldeb maith.

—T J Pritchard (Glandyfi)


471[2] Llais yr Iesu.
M. C. D.

MI glywais lais yr Iesu'n dweud,
Tyrd ataf Fi yn awr,
Flinderog un, cei ar fy mron
Roi pwys dy ben i lawr."

  1. Emyn rhif 470, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930
  2. Emyn rhif 471, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930