Tudalen:Llyfr Emynau MC a MW 1930.pdf/366

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mi ddeuthum at yr Iesu cu,
Yn llwythog, dan fy nghlwyf ;
Gorffwysfa gefais ynddo Ef,
A dedwydd, dedwydd wyf.

2 Mi glywais lais yr Iesu'n dweud,
"Mae gennyf Fi'n ddi-drai
Y dyfroedd byw; sychedig un,
O'u hyfed byw a gai."
At Iesu deuthum; yfais i
O'r afon fywiol gref;
Fe dorrwyd syched f'enaid oll,
A byw wyf ynddo Ef.

3 Mi glywais lais yr Iesu'n dweud,
"Goleuni'r byd wyf Fi;
Tro arnaf d'olwg, tyr y wawr,
A dydd a fydd i ti."
At Iesu edrychais; ces fy Haul
A'm Seren ynddo Ef;
Ac yn ei olau rhodio wnaf
Nes cyrraedd draw i dref.

Horatius Bonar cyf Awduron anhysbys


472[1] SALM I. 1, 2, 3.
M. S.

1 Y SAWL ni rodia, dedwydd yw,
Yn ôl drwg ystryw gyngor;
Ni saif ar ffordd troseddwyr ffôl,
Nid eiste'n stôl y gwatwor.

2 Ond ei holl serch ef fydd yn rhwydd
Ar ddeddf yr Arglwydd uchod:
Ac ar ei ddeddf rhydd, ddydd a nos,
Yn ddiddos ei fyfyrdod.

3 Ef fydd fel pren plan ar lan dôl,
Dwg ffrwyth amserol arno;
Ni chrina'i ddalen, a'i holl waith
A lwydda'n berffaith iddo.

  1. Emyn rhif 472, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930