473[1] SALM XXIII.
M. S.
1 YR Arglwydd yw fy Mugail clau,
Ni ad byth eisiau arnaf;
Gorwedd a gaf mewn porfa fras,
Ar lan dwfr gloywlas araf.
2 Fe goledd f'enaid, ac a'm dwg
'R hyd llwybrau diddrwg, cyfion;
Er mwyn ei enw mawr di-lys,
Fe'm tywys ar yr union.
3 Pe rhodiwn, mi nid ofnwn hyn,
Yn nyffryn cysgod angau;
Wyt gyda mi, â'th nerth a'th ffon;
On'd tirion ydyw'r arfau?
4 Gosodaist Di fy mwrdd yn fras,
Lle'r oedd fy nghas yn gweled;
Olew i'm pen, a chwpan llawn,
Daionus iawn fu'r weithred.
5 O'th nawdd y daw y doniau hyn
I'm canlyn byth yn hylwydd;
A minnau a breswyliaf byth,
A'm nyth yn nhŷ yr Arglwydd.
474[2] SALM XXXVII. 4, 5, 6, 18, 19, 37.
M. S.
1 BYDD di gysurus yn dy Dduw, |