Tudalen:Llyfr Emynau MC a MW 1930.pdf/368

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

3 Fe edwyn Duw ddyddiau a gwaith
Pob rhai o berffaith helynt;
Ac yn dragywydd Duw a wnaeth
Deg etifeddiaeth iddynt.

4 Efe a'u ceidw hwynt i gyd,
Ni chânt ar ddrygfyd wradwydd;
Yn amser newyn hwy a gânt
O borthiant ddigonolrwydd.

5 Ystyria hefyd y gŵr pur,
Ac edrych dŷ'r cyfiawnedd;
Ti a gei weled cyfryw ddyn,
Mai'i derfyn fydd tangnefedd.


475[1] Pryn y Gwir."
M. S.

O! PRYN y gwir, fy enaid, pryn,
Na werth ar un amodau;
O holl drysorau môr a thir,
Y gwir yw'r trysor gorau.

2 Y gwir fel gwregys, ar bob cam,
Yn dynn fo am ein lwynau;
Y gwir ei hun a geidw'n bron
Yn llon mewn gorthrymderau.

3 Rhy'r gwir im gysur dan y loes
Pan ddelo f'oes i fyny:
Daw hwn â'm henaid i'r pryd hyn
Trwy'r glyn dan orfoleddu.

Thomas Williams, Bethesda'r Bro



476[2] Cynnydd mewn Gras.,br>M. S.

1 Y RHAI o dan dy gysgod, Iôn,
Yn gyson a arhosant
Dan lewyrchiadau d'ŵyneb-pryd,
Y rhain fel ŷd adfywiant.


  1. Emyn rhif 475, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930
  2. Emyn rhif 475, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930