Tudalen:Llyfr Emynau MC a MW 1930.pdf/465

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

2 Fy enaid, cred byth yn dy Dduw,
Na fydd anfodlon tra fych byw;
Yr ydwyt beunydd yn nesáu
I wlad mae cariad fel y môr
Yn uno'r saint â'r nefol gôr—
Tragwyddol gytsain bur ddi—drai.

—William Williams, Pantycelyn

633[1] Canlyn y Bugail.
88. 88. D.

1 DILYNAF fy Mugail trwy f'oes,
Er amarch a gwradwydd y byd;
A dygaf ei ddirmyg a'i groes,
Gan dynnu i'r nefoedd o hyd ;
Mi rodiaf, trwy gymorth ei ras,
Y llwybyr a gerddodd Efe ;
Nid rhyfedd os gwawdir y gwas,
Cans gwawd gafodd Arglwydd y ne'.

2 Nid oes arnaf gwilydd o'i groes—
Ei groes yw fy nghoron o hyd :
Ei fywyd i'm gwared a roes
Fy Ngheidwad, a'm prynodd mor ddrud ;
Dioddefodd waradwydd a phoen,
A'r felltith ar Galfari fryn ;
F'anrhydedd yw canlyn yr Oen—
Yr Oen a ddioddefodd fel hyn!


634[2] Diogelwch y Credadun.
88. 88. D.

ARHOSAF yng nghysgod fy Nuw—
I mewn yn nirgelwch y nef;
Dan adain ei gariad 'r wy'n byw :
Fe'm gwrendy cyn clywed fy llef.
Pe curai trallodion yn hy
I'm herbyn fel tonnau y môr,
Mi ganaf wrth deimlo mor gry',
Fy Nghraig a'm cadernid yw'r Iôr.

  1. Emyn rhif 633, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930
  2. Emyn rhif 634, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930