Tudalen:Llyfr Emynau MC a MW 1930.pdf/466

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

2 Nid ofnaf rhag dychryn y nos,
Na'r saeth a ehedo y dydd:
Diogel bob munud o'm hoes
A fyddaf yng nghastell fy ffydd ;
Eiddilaf ryfelwr wyf fi,
I ymladd â nerthoedd y ddraig;
Ond caf fuddugoliaeth a bri,
A Duw Hollalluog yn graig.

635[1] Arwain Fi.
10. 4. 10. 4. 10. 10.

1 OLEUNI mwyn, trwy'r gwyll sy'n cau bob tu,
O! arwain fi;
Pell oddi cartref wyf, a'r nos yn ddu,
O! arwain fi;
Cadw fy nhraed; ni cheisiaf weled dim
O'r tir sy draw; un cam sy ddigon im.

2 Nid oeddwn gynt yn ymbil am i'th wawr
Fy arwain i;
Dethol fy ffordd a fynnwn; ond yn awr,
O arwain Di.
Carwn y llachar ddydd; er ofnau'r hynt
Bu falch fy mryd; na chofia'r amser gynt.

3 Diau dy allu, a'm bendithiodd cyd,
A'm harwain i
Dros waun a rhos, dros graig a chenlli, hyd
Pan wawrio hi,
A'r engyl gyda'r wawr yn gwenu fo,
A gerais er ys talm, a gollais dro.

—John Henry Newman cyf John Morris-Jones


Gweddi'r Pererin. 636

10. 4. 10. 4. 10. 10.

<poem>

¹ A¹
AR hyd yr anial unig yn dy law,
dirion Dad,
Gad i mi gerdded, nes gorffwyso draw
Ar dir fy ngwlad;

  1. Emyn rhif 635, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930