2 Ar fin diffygio gan y daith,
A lludded maith y lle,
Mor hoff yw gwybod wedi hyn
Cawn orffwys yn y ne'.
3 'N ôl teimlo archoll llawer saeth,
A phrofedigaeth gref,
A dioddef gwres y dydd, a'i bwys,
Cawn orffwys yn y nef.
4 Mae'n gysur meddwl, pan fo'n dod
Len dros ei ŵyddfod Ef,
Yn cynnal ei dragwyddol bwys,
Cawn orffwys yn y nef.
5 Er colli ein cyfeillion hoff
Yn lli Iorddonen gref,
Mae'n felys meddwl-eto 'nghyd
Cawn gwrddyd yn y nef.
6 Cymhwyser ni drwy'r Ysbryd Glân
A'i rasol ddoniau Ef,
Nes dyfod fel twysennau llawn,
Yn aeddfed iawn i'r nef.
—Evan Evans (Ieuan Glan Geirionydd)
80[1] Undeb y Gwaredigion.
M. C.
1 MAE brodyr imi aeth ymlaen
Yn holliach a chytûn;
Deng mil o filoedd yw eu cân,
Er hyn nid yw ond un.
2 Mae pawb o'r brodyr yno'n un,
Heb neb yn tynnu'n groes,
Yn moli'r Duwdod yn y dyn,
A chofio'r angau loes.
- ↑ Emyn rhif 651Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930