Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llyfr Emynau MC a MW 1930.pdf/476

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

3 Ni theimlir yno unrhyw boen,
Na chŵyno gan un clwy';
Ond pawb mewn hwyl yn moli'r Oen
I dragwyddoldeb mwy.

4 Daw'r holl dduwiolion yno 'nghyd,
O'r gogledd, de, heb ri',
A'u holl gadwynau'n chwilfriw mân,
A'u cân am Galfari.
—Dafydd Morris, Twrgwyn,

652
Gwlad yr Addewid.
M. C.
1'R WY'N sefyll ar dymhestlog lan
'R'
Yr hen Iorddonen ddu,
Gan syllu draw mewn hiraeth dwys
Ar fryniau'r Ganaan fry.

2 'R wy'n tybio gwelaf eiliw gwan
O'r glannau bythol wyrdd,
Lle'r hongia sypiau grawnwin pur
Ar fywiol brennau fyrdd.

3 Ni theimlir yno chwerw loes,
A marw mwy ni bydd ;
Awelon peraidd balmaidd byw
Yn treiddio'r ardal sydd.

4 O! ardal hyfryd, lle ni ddaw
Na gofid byth, nac aeth,
Lle ffrydia perffaith wynfyd pur
Fel llif o fêl a llaeth.

5 Ac yno y mwynheir, heb nos,
Un anfachludol ddydd,
Heb haul, na lloer-ond Duw ei Hun
I hon yn haul a fydd.