Tudalen:Llyfr Emynau MC a MW 1930.pdf/484

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

665[1] Sefyll yn y Farn

.

76. 76. D.

1 TI, Farnwr byw a meirw,
Sydd ag allweddau'r bedd,
Terfynau eitha'r ddaear
Sy'n disgwyl am dy hedd;
'D yw gras i Ti ond gronyn,
Mae gras ar hyn o bryd
Ryw filoedd maith o weithiau
I mi yn well na'r byd.

2 O flaen y fainc rhaid sefyll,
Ie, sefyll cyn bo hir;
Nid oes a'm nertha yno
Ond dy gyfiawnder pur:
Myfi anturia'n eon
Trwy ddyfroedd a thrwy dân,
Heb olau a heb lewyrch,
Ond dy gyfiawnder glân.


—William Williams, Pantycelyn

666[2] Rhyfeddodau Dydd yr Atgyfodiad.

76. 76. D.

1 BYDD myrdd o ryfeddodau
Ar doriad bore wawr,
Pan ddelo plant y tonnau
Yn iach o'r cystudd mawr;
Oll yn eu gynau gwynion,
Ac ar eu newydd wedd,
Yn debyg idd eu Harglwydd
Yn dod i'r lan o'r bedd.


—Casgliad y Parchn Richard & Joseph Williams Lerpwl


667[3] Dydd o brysur Bwyso.
76. 76. D.

1 DAW dydd o brysur bwyso
Ar grefydd cyn bo hir;
Ceir gweld pwy sydd â sylwedd,
A phwy sydd heb y gwir:


  1. Emyn rhif 665 Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930
  2. Emyn rhif 666 Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930
  3. Emyn rhif 667 Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930