Tudalen:Llyfr Emynau MC a MW 1930.pdf/485

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

O! Dduw, rho im adnabod
Ar f'ysbryd ôl dy law,
Cans dyna'r nod a'r ddelw
Arddelir ddydd a ddaw.


o bosib gan John Williams (Ioan ap Gwilym)
yn cael ei ddyfynu gan John Thomas, Rhaeadr

668[1] Ail Ddyfodiad Crist.
76. 76. D.

1 ER gwaetha'r maen a'r gwylwyr
Cyfododd Iesu'n fyw;
Daeth yn ei law alluog
 phardwn dynol-ryw;
Gwnaeth etifeddion uffern
Yn etifeddion nef;
Fy enaid byth na thawed
A chanu iddo Ef.

2 Fe'i gwelir ar y cwmwl
Yn dyfod cyn bo hir,
A'i ddedwydd waredigion,
Ffrwyth ei ddioddefaint pur:
Bydd gogledd, de, a dwyrain,
Gorllewin faith, yn un,
Oll yn eu gynau gwynion
Yn moli Mab y Dyn.

Morgan Rhys



669[2] Sylfaen Safadwy.
76. 76. D.

1 AM graig i adeiladu,
Fy enaid, chwilia'n ddwys;
Y sylfaen fawr safadwy
I roddi arni 'mhwys:
Bydd melys yn yr afon
Gael Craig a'm deil i'r lan,
Pan fyddo pob rhyw stormydd
Yn curo ar f'enaid gwan.

Maurice David, Y Bala


  1. Emyn rhif 668, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930
  2. Emyn rhif 669, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930