Tudalen:Llyfr Emynau MC a MW 1930.pdf/486

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

670[1] Llawenydd yn wyneb Angau
76. 76. D.

1 YMADO wnaf â'r babell
'R wy'n trigo ynddi'n awr;
Colofnau'r tŷ ddatodir,
Fe'u cŵympir oll i lawr;
A pob gwahan-glwyf ymaith;
Glân fuddugoliaeth mwy!
'R wy'n canu wrth gofio'r bore
Na welir arnaf glwy'.

2 Fe dderfydd imi bechu,
Iacheir yn lân fy nghlwy',
Ond byth ni dderfydd canu
Am faddau pechod mwy;
Caf gorff yr hen farwolaeth
I lawr, na chyfyd byth;
Teyrnasaf gyda'r Iesu
Fry, oesoedd rif y gwlith.
Gweled Iesu yn y Nefoedd.

Morgan Rhys


671[2] Gweld Iesu yn y Nefoedd
76. 76. D.

1 BYDD gweld gogoniant Iesu,
A chofio'r mannau bu,
Yn ennyn cân o newydd.
Trwy'r holl nefolaidd lu ;
Ei weld, a chofio Bethlem,
A'i eni yno'n dlawd—
Rhyfeddod nef y nefoedd
Fydd gweled Duw mewn cnawd.

2 Ei weld, a chofio'r cwpan
Yn Gethsemane ardd;
Ei gofio'n dod o Edom
Oll yn ei wisg yn hardd;
Ei weld, a'i holl elynion
Yn droedfainc dan ei draed;
Ei weld, a chofio'n golchi
O'n beiau yn ei waed.


  1. Emyn rhif 670, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930
  2. Emyn rhif 671, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930