Tudalen:Llyfr Emynau MC a MW 1930.pdf/507

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

2 Un gofid trwm, na chystudd trist, na chur,
Ni ddaw i byrth y lân breswylfa bur;
Na chlwyf na braw i'r saint i'w blino mwy,
Yr annwyl Oen a sych eu dagrau hwy.
Eu galar maith a'u chwerwon ddwys riddfannau
Yno a dry yn hyfryd bêr ganiadau.

3 Mae afon bur yn llifo o'r orsedd wiw;
A'i bywiol ddisglair ddwfr, rhinweddol yw ;
Ac yno hyfryd Bren y Bywyd sy,
A'i ffrwythau Ef yn wledd dragwyddol fry.
Teyrnasu mae yr Iesu yn fuddugol,
Angau a'r bedd orchfygwyd yn dragwyddol.

705 1 ¹ EIN EMYNAU CYMDEITHASOL A CHENEDL- AETHOL. Achub ein Gwlad. M. C. IN hadfyd gwêl, O! Arglwydd Dduw ; Tosturia, nefol Dad; Dywysog ein hieuenctid, clyw, Ac achub Di ein gwlad. 4 2 Rhag colli gras Sabbathau'r nef, Rhag sathru deddfau'n Tad, Gwna rymus waith mewn gwlad a thref, Ac achub Di ein gwlad. 3 Rhag cyngor pob annuwiol ddyn, Rhag elw dilesâd, Rhag dy fradychu Di dy Hun, O! Iesu, cadw'n gwlad. R.