2[1] SALM LXVII
M. B. C.
1. TRUGAREDD Duw i'n plith,
A rhoed ei fendith drosom,
Tywynned byth ei ŵyneb-pryd,
A'i nawdd a'i iechyd arnom.
2. Duw, moled pobloedd Di,
Rhoent fawl a bri trwy'r hollfyd;
A'r holl genhedloedd is y nen
A fyddant lawen hyfryd.
3. Cans Ti a ferni'n iawn
Y bobl wy lawn wybodaeth,
Ac a roi'r holl genhedloedd ar
Y ddaear mewn llywodraeth.
4. Duw, moled pobloedd Di,
Rhoent fawl a bri trwy'r hollfyd,
Yna rhy'r tir ei ffrwyth i'n plith,
A Duw ei fendith hefyd.
5. A Duw, sef Duw ein Tad,
A roddo'i rad a thyciant,
A holl derfynau'r ddaear gron
A phawb ar hon a'i hofnant.
—Edmwnd Prys (1544—1623)
3[2] "Megis yn y Nef, felly ar y Ddaear."
M. C.
1. MOLIANNED uchelderau'r nef
Yr Arglwydd am ei waith,
A cherdded sŵn ei foliant Ef
Trwy'r holl ddyfnderau maith.
2. Canmoled disglair sêr di-ri'
Ddoethineb meddwl Duw ;
Ac yn ein dagrau dwedwn ni
Mai doeth a chyfiawn yw.