3 Am ei sancteiddrwydd moler Ef
Gan gôr seraffiaid fyrdd;
Atebwn ninnau ag un llef
Mai sanctaidd yw ei ffyrdd.
4 Trwy'r nefoedd wen o oes i oes
Canmoler cariad Duw ;
A chanwn ninnau wrth y groes
Mai Duw y cariad yw.
5 Molianned uchelderau'r nef
Yr Arglwydd am ei waith,
A cherdded sŵn ei foliant Ef
Trwy'r holl ddyfnderau maith.
—Howell Elvet Lewis (Elfed)
4[1] Mawl i'r Prynwr
M. C.
1 O! AM dafodau fil ar gân
I'm Prynwr, i roi 'maes
Fawl a gogoniant f'Arglwydd glân,
Gorchestion mawr ei ras.
2 Fy ngrasol Arglwydd, yr awr hon
I'th ganmol cymorth fi,
A rhoi ar led drwy'r byd o'r bron,
Anrhydedd d'enw Di.
3 Iesu yr enw a ddifa'n braw;
Ffy'n gofid rhag ei wedd;
Yn bersain at bechadur daw,
Mae'n fywyd, iechyd, hedd.
4 Fyddariaid, clywch; rhowch iddo'n awr,
Chwi fudion, glod yn lli;
Chwi ddeillion, dyma'ch Meddyg mawr ;
A'r cloffion, llemwch chwi.
- ↑ Emyn rhif 4, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930