5 Ar Iesu rhoed eich beiau mawr:
Oen Duw fu farw'i Hun;
Ei enaid a roes Ef i lawr
Dros enaid pob rhyw ddyn.
—Charles Wesley cyf. D Tecwyn Evans
5[1] Moli'r Tad.
M. C.
1 MOLIANNAF enw'r Tad o'r nef
Am waredigaeth ddrud,
A thosturiaethau fwy na mwy,
Trwy haeddiant Prynwr byd.
2 Nac ofna, f'enaid, am a ddaw,
Wrth deithio tua'r nef;
Ni ddigwydd niwed nac un cam
I'r hwn sydd ynddo Ef.
3 Er cystal trugareddau'r Iôn,
Fy Iesu mawr yw'r dawn
Sy'n cynnwys popeth ynddo'i Hun—
Fy iechydwriaeth lawn.
6[2] Moliant i'r Oen.
M. C.
CYDUNWN â'r angylion fry,
Ein tannau yn gytûn;
Deng mil o filoedd yw eu cân,
Er hyn nid yw ond un.
2 Os ydyw'r Oen fu farw yn sail
Eu holl ganiadau hwy,
Mae'n haeddu, am farw drosom ni,
Ein mawl fil miloedd mwy.
3 Ac Ef yn unig biau'r mawl,
Drwy ddwyfol hawl ddi-lyth,
A chlod uwchlaw a allwn ni
Ei roddi iddo byth.