4 Cyduned pob creadur byw,
Uwchlaw ac is y nen,
I roi ynghyd, cans teilwng yw,
Y goron ar ei ben.
5 Doed y greadigaeth eang oll,
Ag un soniarus lef,
I ogoneddu'r addfwyn Oen,
A thraethu'i foliant Ef.
7[1] Coronwch Ef yn Ben.
M. C.
1 DYRCHAFER enw Iesu cu
Gan seintiau is y nen;
A holl aneirif luoedd nef,
Coronwch Ef yn Ben.
2 Angylion glân, sy'n gwylio'n gylch
Oddeutu'i orsedd wen,
Gosgorddion ei lywodraeth gref,
Coronwch Ef yn Ben.
3 Hardd lu'r merthyri, sydd uwchlaw
Erlyniaeth, braw, na sen,
 llafar glod ac uchel lef,
Coronwch Ef yn Ben.
4 Yr holl broffwydi'n awr sy'n gweld
Y Meichiau mawr heb len,
A'i apostolion yn gyd-lef,
Coronwch Ef yn Ben.
5 Pob perchen anadl, ym mhob man,
Dan gwmpas haul y nen,
Ar fôr a thir, mewn gwlad a thref,
Coronwch Ef yn Ben.
6 Yn uchaf oll bo enw'r Hwn
Fu farw ar y pren;
Drwy'r ddaear faith, ac yn y nef,
Coronwch Ef yn Ben.
—Edward Perronet, Cyf. Evan Evans (Ieuan Glan Geirionydd)
- ↑ Emyn rhif 7, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930