Tudalen:Llyfr Emynau MC a MW 1930.pdf/97

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

10[1] SALM LXIII. 3, 4, 5, 7.
M. S.

1 DY faith drugaredd, O! Dduw byw,
Llawer gwell yw na'r bywyd ;
Ac â'm gwefusau rhof it fawl,
A cherdd ogonawl hyfryd.

2 Felly tra fwyf fi fyw y gwnaf,
Ac felly y'th folaf eto,
Ac yn dy enw Di, sydd gu,
Y caf ddyrchafu 'nwylo.

3 Digonir f'enaid fel â mêr,
A chyflawn fraster hefyd,
A'm genau a gân dy foliant tau,
 phur wefusau hyfryd.

4 Ac am dy fod yn gymorth ym,
Drwy fawr rym dy drugaredd,
Fy holl orfoledd a gais fod
Dan gysgod dy adanedd.

11[2] SALM LXVIII. 19, 28, 32.
M. S.

1 BENDIGAID fyth fo'r Arglwydd mau,
Am ddoniau ei ddaioni,
A'i iechydwriaeth inni'n llwyth
O bêr ffrwyth ei haelioni.

2 Dy Dduw a drefnodd iti nerth,
A'i law sydd brydferth geidwad :
Duw, eto cadarnha yn faith
Arnom ni waith dy gariad.

3 Chwi, holl deyrnasoedd daear lawr,
I Dduw mawr cenwch foliant ;
Cydgenwch iddo glod yn rhwydd,
Sef Arglwydd y gogoniant.


  1. Emyn rhif 10, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930
  2. Emyn rhif 11, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930