Tudalen:Llyfr Emynau MC a MW 1930.pdf/98

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

12[1] SALM LXXI. 1, 2, 3, 9, 14.
M. S.

1 MI ymddiriedais ynot, Nêr,
Na'm gwaradwydder bythoedd ;
Duw, o'th gyfiawnder gwared fi,
A chlyw fy nghri hyd nefoedd.

2 Duw, bydd yn graig o nerth i mi,
I gyrchu ati'n wastad;
A phâr fy nghadw i yn well,
Ti yw fy nghastell caead.

3 Nac esgeulusa fi na'm braint
Yn amser henaint truan;
Er pallu'r nerth, na wrthod fi,
Duw, edrych Di ar f'oedran.

4 Fy ngobaith innau a saif byth,
Yn ddilyth a safadwy;
Ymddiried ynot, Dduw, a wnaf,
Ac a'th foliannaf fwyfwy.

13[2] SALM CIII. 1-4, 11-13.
M. S.

1 FY enaid, mawl Sanct Duw yr Iôn,
A Chwbl o'm heigion ynof;
Fy enaid, n'ad fawl f'Arglwydd nef,
Na'i ddoniau Ef yn angof.

2 Yr Hwn sy'n maddau dy holl ddrwg,
Yr Hwn a'th ddwg o'th lesgedd ;
Yr Hwn a weryd d'oes yn llon,
Drwy goron o'i drugaredd.

3 Cyhyd ag yw'r ffurfafen fawr
Oddi ar y llawr o uchder,
Cymaint i'r rhai a'i hofnant Ef,
Fydd nawdd Duw nef bob amser.


  1. Emyn rhif 12, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930
  2. Emyn rhif 13, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930