Tudalen:Llyfr Gloywi Cymraeg.pdf/12

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

II

YR ORGRAFF

Θ

1.-YR ORGRAFF NEWYDD

DEALLER ar unwaith nad priodol mo'r teitl uchod i ddisgrifio'r orgraff a gefnogir yn, y llyfr hwn. Fe'i defnyddir am mai dyna'r enw y gelwir hi arno'n gyffredin. Mewn llawer enghraifft y mae'n golygu glynu wrth yr hen orgraff lle mae honno heddyw wedi'i hanffurfio a'i handwyo gan ddiffyg synnwyr hanes a chan ddiffyg ffyddlondeb i deithi'r iaith. Dyna'r gair bore a ddaw'n esmwyth inni pan ddywedwn bore da, neu'r gair godre, nad oes ffurf fwy naturiol ar ein tafod pan soniwn am odre'r mynydd neu odre'r cwmwl. Yr un ffurf a geir arnynt mewn Hen Gymraeg, a gofyn yr Orgraff Newydd inni ymwrthod â ffurfiau dieithr, megis borau a boreu. Ar y llaw arall, nid yw sgrifennu brenin, er enghraifft bum neu chwe chan mlynedd yn ôl, pan gynhenid yr h, yn rheswm o gwbl dros osod yr h yn y gair heddyw a neb yn ei swnio.

Deilliodd nifer mawr o eiriau Cymraeg o'r Lladin, a deilliodd nifer mwy yn uniongyrchol o'r gwreiddeiriau a orwedd y tu ol i'r Gymraeg a'r Lladin. Llywodraethwyd y newid a fu ar y cydseiniaid a'r llafariaid o bryd i bryd gan ddeddfau nad oedd iddynt ond ychydig o eithriadau. Er enghraifft, trodd yr o hir yn y Lladin yn u yn y Gymraeg, megis addurno (Llad., adorno), pechadur (Llad., peccatorem), dolur (Llad., dolorem), urdd (Llad., ordo), ffurf (Llad., forma), &c. Yn unol