Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llyfr Nest OME.pdf/10

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

greu, dim wedi ei ddychmygu. Mae pob ystori wedi digwydd. Bu ambell un yn y papurau newyddion. Cefais ereill gan ryw gyfaill neu ryw gydymaith teithio, megis y teithiwr, y dyn unig, a'r genhades.

Ar gyfer min nos gaeaf y cyhoeddir y llyfr. Yr wyf yn gobeithio y gwna les. Ei amcan yw deffro'r tannau tyner, trugarog, mwyn, yn nhelyn cymeriad pob geneth.

AWDWR LLYFR DEL