Tudalen:Llyfr Nest OME.pdf/9

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon



RHAGYMADRODD



"Am i chwi unwaith wneud llyfr i fechgyn, a'i alw'n Llyfr Del, rhaid i chwi wneud un arall, cystal ag ef, i enethod, a'i alw'n llyfr Nest." Dyna y gorchymyn a gefais, ac y mae yn rhaid ufuddhau.

Yr wyf wedi dweyd llawer o ystraeon wrth eneth fechan, i'w chadw'n ddiddig weithiau, a thro arall i ddeffro ei meddwl ac i roi edyn i'w dychymyg. Yr un ystori sydd yn apelio at fechgyn bychain a merched bychain, ond eu bod yn gweld ystyr wahanol iddynt ac yn teimlo'n wahanol wrth wrando arnynt.

Y mae un peth yn hanfodol i ystori i enethod. Rhaid iddi fod yn wir. Nid oes yma ddim wedi ei