Tudalen:Llyfr Nest OME.pdf/103

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

llygaid gleision o lawenydd. Ni phrysurodd ymaith, ond cydiai'n dynn iawn yn y chwech.

Aeth y cerbyd a mam a finnau'n gyflym i'n llety. Ond pan edrychais at ffenestr y teganau, wele Pati yno. Safai yn llonydd a myfyrgar o flaen y ffenestr, ac o flaen y ddoli. Yr oedd nôd ei bywyd bychan yn y golwg. Penderfynais fynd i lawr, ac ar draws yr heol, i weld y llawenydd ar wyneb Pati wedi iddi brynnu'r ddoli.

Erbyn i mi gyrraedd yno, yr oedd Pati wedi diflannu. "I'r siop yn sicr," meddwn wrthyf fy hun. Arhosais ennyd, gan ddisgwyl gweld llaw y siopwraig yn tynnu'r ddoli o'r ffenestr. Ond ni welwn ddim. Eis i'r siop, Nid oedd Pati yno, nac wedi bod yno. I ble yr aethai, tybed? Cefais wybod yn union. Pan ddaethum allan o'r sìop, gwelwn hi'n sefyll yn fyfyrgar fel o'r blaen o flaen y ffenestr. Ni welodd hi fi.

Yr oedd torth chwech'ar un fraich iddi. Rhoddodd fŷs y llaw arall ar y ffenestr, ar gyfer y ddoli, ac meddai wrthi ei hun,— Dacw'r ddoli oeddwn ni wedi feddwl gael." Yna trodd ymaith, a cherddodd yn gyflym tuag adre, tan fwmian canu.

Bu ymladd caled rhwng y ddoli a'r dorth yn mynwes y plentyn, mae'n ddiameu. Ond gwell oedd ganddi foddio ei mam a'i brodyr bach newynog na boddio ei hun. Ac os na chaf ddweyd fod Pati wedi cyflawni gwrhydri, nis gwn beth yw ystyr y gair.