X.—CAMGYMERIAD Y FAM
MAE serch mam at ei phlant, fel rheol, yn gwneud ei meddwl yn ddoeth a'i bywyd yn arwrol. Y mae ambell eithriad; a'r eithriadau hyn yw pethau pruddaf hanes y byd. Adroddir eto, ar aelwydydd Finland, hanes prudd mam gollodd ei serch am ennyd at ei phlant.
Yr adeg honno, yr oedd Finland newydd ei gorchfygu gan Rwsia greulon, ac yr oedd sawdl y gorthrymwr ar wddf y gwladgarwr. Yn ystod y rhyfel yr oedd heidiau afrifed o fleiddiaid wedi dod o'r gogledd oer a'r dwyrain caled, ac ni feiddiai dynion dewr fynd i'r caeau a'r coedydd, hyd yn oed liw dydd. Daeth gaeaf gerwin,—eira gwyn dros bob man,—a daeth newyn at yr heidiau bleiddiaid.
Yr oedd mam yn mynd â'i thri phlentyn i dŷ ei thad, i chwilio am nodded yn y dyddiau duon hynny. Yr oedd y dioddef, mae'n sicr, wedi gwanhau ei meddwl. Bachgen afiach, croes, chwech oed, oedd yr hynaf; nid oedd dim wrth ei fodd, ac yr oedd ei lais gwenwynllyd i'w glywed yn cwyno ar hyd y dydd. Bachgen hardd, serchog, pedair oed, oedd yr ail; yr oedd pawb yn hoff iawn o hono. Baban ar y fron oedd y llall,
Cerbyd un ceffyl oedd ganddynt, y fam yn dal y ffrwyn. Carlamai'r ceffyl ymlaen, rhag ofn y nos— a'r bleiddiaid. Cyn mynd ymhell, clywent udiadau'r bleiddiaid o'u hol. Fflangellai'r fam y ceffyl; ond, er iddo fynd ei oreu, yr oedd y bleiddiaid yn ennill arnynt. Rhuthrodd dau flaidd enfawr at y