Tudalen:Llyfr Nest OME.pdf/105

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ceffyl. Heb betruso dim, cydiodd y fam yn y bachgen hynaf a thaflodd ef i'r bleiddiaid. Arosodd yr holl haid am ennyd i ymladd am dano ac i'w fwyta.

Cyn pen hir, clywid sŵn ofnadwy'r bleiddiaid yn nesu drachefn. Edrychodd yr ail fachgen ym myw llygaid ei fan. "Mami, ydw i'n dda; yn tydw i, mami?_ Chaiff y bo-bos mo'na i, a gan nhw, mami ? mami? Cyn pen ychydig funudau, yr oedd y bleiddiaid ar eu gwarthaf; a thaflodd y fam y bychan hoffus iddynt.

Yn fuan fuan, daeth sŵn y bleiddiaid ar yr awel eto. Taflodd y fam ei baban iddynt oddiar y fron. Cyn i'r bwystfilod ddod ar warthaf y fam wedyn, yr oedd hi a'r ceffyl lluddedig wedi cyrraedd cyfannedd. Cafodd amser i adrodd hanes colli'r plant; ac yna bu farw o ddychryn a thorr calon. Ystori brudd, onite? Ond y mae gwers i'r hanes ofnadwy hwn. Nid oes dim, hyd yn oed cadw bywyd, yn rhoddi hawl i ni wneud drwg. Mil gwell i'r fam, druan, fuasai marw gyda'i rhai bychain na marw o dorr calon wedi eu colli.