Tudalen:Llyfr Nest OME.pdf/109

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddôl yn disgwyl am danaf, i'w diodi. Y mae fy merched, y ffrydlifoedd bychain, yn crwydro i chwilio am danaf. Y mae llongau a chychod yn fy nisgwyl i'w cludo i'r môr."

Bydd arnaf hiraeth am danat," ebe'r Mynydd, "a ddoi di'n ol?"

"Dof. Pan af i'r môr, collaf bob amhurdeb. Cwyd yr haul fi i fyny i'r awyr, chwyth y deheuwynt fi uwch y tir, a disgynnaf yn wlaw tyner ar dy ben, yn fendith y Nefoedd iti, hen Fynydd cadarn a ffyddlon."

"Byddaf finnau'n lloches i'r defaid," ebe'r mynydd, "a rhoddaf fwyd i'r glaswellt ac i'r coed ac i'r adar. Yr wyf fi yn aros, yr wyt tithau'n newid. Ac wrth i mi aros, ac wrth i ti newid, y mae pob peth yn fyw ac yn dlws. Cân, Afon dlos, a chrwydra i wneud daioni. Yr wyt ti byth yn ieuanc, croesaw iti."

"Aros dithau, Fynydd ardderchog, yn gysgod i'r coed a'r blodau rhag ystormydd. Mawredd sydd iti, a ffyddlon wyt. Yr wyf bob amser yn dychwel atat, ac yn canu cân i ti."

III.—-DARLUNIAU'R BABAN IESU

Y MAE pedwar darlun o'r baban Iesu na byddaf byth blino edrych arnynt. Un yw darlun Raffael. Yn hwn saif ar lin Mair. Y mae hithau'n troi dalennau llyfr bychan darluniedig, ac y mae'r bachgen wedi dysgu sylwi arno. Gwyneb dwys, prydferth, ydyw, yn dechreu meddwl.