Tudalen:Llyfr Nest OME.pdf/110

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yr ail yw darlun Carlo Dolci. Yn hwn dengys ei fam iddo flodau. Y mae yntau wedi dewis rhosyn, a gallai'r ddau ddweyd wrth eu gilydd,

"Rhosyn Saraon,
Ti yw tegwch nef y nef."

Gwyneb plentyn yn dechreu sylwi sydd yn y clarlun hwn.

Y trydydd yw darlun Sassoferrato. Plentyn gwallt goleu ydyw yma, yn cydio'n dynn am wddf ei fam. Gwyneb plentyn cariadus a serchog sydd yna.

Yr olaf yw darlun Murillo. Yn hwn saif ar garreg, gydag un llaw yn llaw ei dad, a'r llall yn llaw ei fam. Hwn yw'r goreu gennyf o'r pedwar, ond nis gallaf ddweyd dim am dano ond mai darlun o blentyn naturiol yw.

Dysgu meddwl, dysgu sylwi, dysgu caru, ac eto'n blentyn,—beth yn y byd sydcl dlysach na'r pedwar darlun hyn?

IV.-GWIR ARWR

Y MAE daioni lle na ddisgwylir ei gael yn aml. Ymysg y plant carpiog tlodion sydd yn hanner newynu hyd heolydd Llundain, y mae aml galon fechan ddewr yn curo, yn llawn caredigrwydd ac awydd gwneud daioni.

Yr oedd un o weinidogion Cymreig Llundain yn pasio cornel lle y saif crossing sweepper,—bachgen ungoes, wedi ei daflu yn hollol at drugaredd y byd. Y munud hwnnw, aeth plentyn bychan dan olwynion