Tudalen:Llyfr Nest OME.pdf/111

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cab. Er perygl ei fywyd ei hun, rhuthrodd y cardotyn bach cloff i waredu'r plentyn. Tynnodd ddimeuau lawer o'i boced, cyfrifodd hwy, ac estynnodd hwy i'r cabman. Cododd y plentyn yn ei freichiau i'r cab, aca meddai,—

"Cabi, ar eich union i'r ysbyty."

Pan aeth y cab a'r plentyn clwyfedig ymaith, aeth y gweinidog at vr ysgubwr, estynnodd ddarn arian iddo, a dywedodd,—

"Fy machgen i, fedrwch chwi ddim fforddio talu o'ch poced eich hun.”

"Na, syr," oedd yr ateb dewr, "myfi sy'n talu.” A gwrthododd yr arian; er, y mae'n debyg, byddai raid iddo ddioddef oerfel a newyn o'r herwydd.

V.—PROFEDIGAETH GWEN OWEN

MERCH i rieni Cymreig yn byw yn Llundain oedd Gwen Owen. Yr oeddynt, oherwydd colli ei thad, wedi syrthio i dlodi mawr. Un bore, yr oedd mam Gwen yn wael, ac anfonodd ei merch fechan â llestr i ymofyn llaeth. "Gofala am y piser, Gwen," meddai, "fy mam a'i rhoddodd i mi, cerdd yn araf, paid a rhedeg, rhag i ti syrthio a'i dorri."

Yr oedd Gwen yn llawen iawn wrth feddwl ei bod yn cael mynd ar neges dros ei mham, a'i bod yn ddigon mawr i fod yn forwyn. Yn ei llawenydd, dechreuodd fwmian canu. Toc, dechreuodd redeg. Tarawodd ei throed yn erbyn rhywbeth, a syrthiodd ar y palmant llyfn. Torrodd y piser yn deilchion.