Tudalen:Llyfr Nest OME.pdf/115

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yr oedd yr arian yn prysur ddarfod. Effeithiodd yr ofn a'r pryder ar ei hiechyd gwannaidd, a bu farw.

Yr oedd y cyfaill hwnnw yn edrych ar y ddau blentyn yn wylo yn angladd eu mam. Gŵr caled oedd, heb le yn ei galon i deimlad na diolch. "Bydd y ddau acw yn bwysau arnaf fi," meddai ynddo ei hun, "ond ychydig wariaf fi ar eu bath. Pe dechreuwn dosturio wrth blant amddifaid, buan yr ehedai fy arian ymaith."

Ar derfyn tref y gwyddai am dani, yr oedd dwy hen ferch a brawd yng nghyfraith iddynt yn cadw "cartref i amddifaid." Dywedai y tri hyn mai o gariad at blant amddifaid y cadwent y lle. Aeth y cyfaill anffyddlawn a'r ddau blentyn wylofus yno. Wrth fynd, dywedai,—

"Bydd Mr. Wamp a'r ddwy Miss Strait yn fwy caredig hyd yn oed na'ch tad a'ch mam. Wedi bod yno dipyn, bydd yn dda gennych fod eich mam wedi marw. Yr oedd eich mam yn dlawd a'ch hen. gartref yn wael; ond yr wyf yn mynd a chwi i gartref mawr, lle cewch ddigon o fwyd, a digon o rai i chwareu â chwi."

Yr oedd y geiriau celyd yn archolli teimladau y ddau alarwr bychan, er na wyddent pam. Hawdd oedd gweld na feddai y gŵr ofalai am danynt fawr o syniad am deimlad plentyn, na fawr o gydymdeimlad â'u trallodion.

Pan gyrhaeddodd y plant y cartref newydd, aeth ias o ofn trwy'r ddau, ac edrychasant yn bryderus ar eu gilydd. Ni wyddent pam, ond yr oedd eu hen gartref, pan oedd eu mam yno, mor glŷd ac mor gynnes. Yr oedd ei gwên hi yn cynhesu eu