Tudalen:Llyfr Nest OME.pdf/116

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

calonnau pan oedd ychydig iawn o fwyd yn y cwpwrdd. Yr oedd ei gobaith,—' Fe ddaw eich tad adre,—yn ddigon i wneud iddynt ganu er fod eu dillad yn ddigon teneu a'u cylla yn ddigon gwag. Ond beth oedd yn y tŷ mawr o'u blaenau barai iddynt ofni? Ni welai cyfaill eu tad ond diddosrwydd yno. Pe buasai eu mam yn eu dwyn, buasai yn gweld yn gliriach beth oedd cartref newydd ei phlant.

Oer ac unig oedd cartref newydd y brawd a'r chwaer. Yr oedd y tŷ'n fawr, y mae'n wir, a'r plant yn lluosog. Ond ni fedrai'r ddau bach wneud cyfaill o neb,

Yr oedd Mr. Wamp a'r ddwy Miss Strait yn cadw tŷ eang oer yn gartref i amddifaid. Haerent fod eu bryd yn llwyr ar wneud daioni, ac mai eu cariad at blant a wnai iddynt ymroddi i gadw cartref i rai heb gartref arall yn y byd. Ond y gwir yw mai er mwyn elw yn unig y cadwent cu "Cartref; "ac yr oeddynt yn cashau y plant, druain, oedd dan eu gofal. Ni chaent ddigon o fwyd, a dysgid hwy i gashau eu gilydd, ac i brepian ar eu gilydd wrth y ddwy hen ferch ddideimlad a'u rheolai.

Yr oedd llawer o'r plant yn blant drwg yn dod yno, ac aent yn waeth wedi dod. Plant yr oedd ar rywun eisieu eu lle oedd llawer ohonynt, plant a'u mamau wedi marw, plant na ofalai neb am danynt yn eu bywyd ac na alarai neb am danynt yn eu marwolaeth.

Gwael iawn oedd y bwyd, hollol anghymwys i blant o oedran tyner. Ychydig oedd o hono hefyd, ac yr oedd golwg newynog ar y llu plant wrth godi oddiwrth y bwrdd yn ogystal ag wrth ddod ato.