Tudalen:Llyfr Nest OME.pdf/117

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ceid dyledswydd yn y bore; darllennai Mr. Wamp bennod hir mewn llais sychlyd. Yn ystod yr oriau hynny, tyfai casineb at y Beibl ac at grefydd ym mynwesau y plant. Yn y bore a'r prynhawn yr oedd ysgol. Arolygai y ddwy Miss Strait hi. Llais main, gwichlyd, oedd gan yr ieuengaf o'r ddwy, ac yr oedd i'w glywed bob munud. Yr oedd yr hynaf yn ddistawach ; ond yr oedd, yn ei hoes, wedi gwisgo cannoedd o wialenau bedw allan yn llwyr. Hir iawn oedd oriau'r ysgol. Pregethai y ddwy Miss Strait y dylai y plant fod fel hyn ac fel arall, y dylent hoffi'r ysgol a'u gwersi, ac y dylent gredu mai Mr. Wamp oedd y dyn goreu yn y byd, ac mai y ddwy Miss Streit oedd y ddwy fwyaf caredig. Ond ni fedrai'r plant hoffi yr hyn ddysgid iddynt, llusgai'r oriau hirion yn araf heibio, tra y gwyliai dau bâr o lygaid creulawn laweroedd o barau o lygaid bychain gwrthryfelgar ac anhapus. Y wialen oedd yn teyrnasu yno; am dani hi y meddyliai y plant o hyd, ac am dani hi y meddyliai y ddwy Miss Strait.

Yr oedd hiraeth y ddau blentyn am eu mam yn fawr yn ystod oriau'r ysgol. Mor hawdd oedd dysgu gyda hi, mor wahanol oedd y Testament Newydd pan yn gorffwys ar ei glin, mor hawdd oedd ei deall yn esbonio. Rhoddodd Gwenfron ei phen ar y ddesc i wylo o hiraeth unwaith. Cysgodd dan wylo. Breuddwydiodd ei bod gyda'i mham. Yr oeddynt yn crwydro drwy'r caeau, yn torri blodau i'w dangos i'w mham, ac yr oedd Ilid yn chwareu yn fachgen bach hapus o'u cwmpas. Deffrodd mor sydyn fel y credai fod ei breuddwyd yn wir, a'i bod yn estyn blodyn llygad y dydd i'w mham.